Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

CLA(4)-11-14

 

CLA389 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) 2014.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (Offeryn Statudol 2009/470) ('y Prif Reoliadau'). Y Prif Reoliadau sy'n llywodraethu ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr sy'n dibynnu ar incwm a gafodd eu talu i fyfyrwyr o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30).  Mae'r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ymwneud â darparu gwybodaeth a gwneud ad-daliadau.

 

GweithdrefnNegyddol

 

1.        Materion technegol: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

 

1.       Gan mai Gorchymyn Cyfansawdd yw hwn, dim ond yn Saesneg y mae wedi'i wneud.

 

[Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw'r offeryn wedi'i wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.]

 

2. Craffu ar y Rhinweddau

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Mawrth 2014